30 Mehefin 2023
Ynghylch: Rheoliadau drafft Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 2023
Annwyl Jeremy,
Diolch am eich llythyr dyddiedig 27 Mehefin 2023, yn rhoi gwybod am eich bwriad i osod Rheoliadau drafft Safonau'r Gymraeg (Rhif 9) 2023 (“y Rheoliadau”) gerbron y Senedd.
Gwnaethom drafod eich llythyr yn ein cyfarfod ddydd Iau 29 Mehefin 2023. Nodwn eich bod wedi gosod y Rheoliadau gerbron y Senedd ar 27 Mehefin 2023. Ysgrifennaf atoch i gadarnhau nad yw'r Pwyllgor yn bwriadu craffu ar y Rheoliadau hyn a chyflwyno adroddiad arnynt.
Er bod y Pwyllgor wedi dewis peidio â gwneud gwaith craffu ar y Rheoliadau penodol hyn, byddai’r Pwyllgor yn croesawu’r cyfle i drafod rheoliadau ynghylch Safonau’r Gymraeg a gwneud gwaith craffu arnynt yn y dyfodol. Hoffem wneud cais bod digon o amser yn cael ei neilltuo yn y dyfodol i’r Pwyllgor wneud gwaith craffu o’r fath a chyhoeddi adroddiad cysylltiedig. Yn flaenorol, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu hysbysiad ymlaen llaw ynghylch ei bwriad i osod rheoliadau o'r fath, ac wedi cynnig rhoi ystyriaeth i drafodaethau’r Pwyllgor ynghylch y rheoliadau dan sylw wrth drefnu dyddiad ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn. Byddem yn ddiolchgar pe byddai modd cynnwys trefniadau o’r fath wrth gyflwyno rheoliadau ynghylch Safonau’r Gymraeg yn y dyfodol.
Yn gywir,
Delyth
Jewell AS
Cadeirydd y Pwyllgor
Croesewir
gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.